Who said it had to be english XD
2 can play that game (this is the least messed up story I have)
Canodd cloch y drws a rhedodd Catrin i'w ateb gan gofio cloi pob drws ar ôl ei ddefnyddio. Roedd deg allwedd wahanol am rannau gwahanol o'r tŷ ond erbyn nawr roedd hi'n gwybod pa allwedd i ddefnyddio.
Munud yn ddiweddarach cyrhaeddodd hi'r drws blaen. Agorodd hi'r drws blaen ac yna safai dau o bobol ddieithr. Roedd un ferch ifanc gyda'i gwallt brown wedi ei glymu nôl yn edrych i'r llawr yn ddihyder a thrist. Hefyd roedd hen fenyw gyda gwallt byr, gwyn a llygaid glas fel dau for.
"Rydw i yn dy ddisgwyl di, dewch i mewn, mae’n arllwys y glaw tu fas." meddai Catrin heb feddwl dwywaith.
"Fy enw i yw Ariana a’r ferch ifanc yw Elinor" eglurodd y hen fenyw.
"Helo Elinor, rydych chi'n ifanc, ydych chi'n gwybod sut i lanhau a gofalu am blant?" gofynnodd Catrin. Tawelwch. Ar ôl hanner munud o dawelwch eglurodd Ariana,
“Mae Elinor yn gwrthod siarad ar ôl beth ddigwyddodd. Dydy hi ddim wedi siarad am flynyddoedd nawr ac efallai fydd hi byth yn siarad eto.
"Mae mam ddim yn hanner call" gweiddodd Lili.
"Na ddydy hi ddim!" sgrechiodd Efan. Eisteddon nhw yn y tywyllwch gyda dim ond cannwyll i'w goleuo. Eisteddodd Elinor yn dawel yng nghornel yr ystafell yn gwylio popeth oedd yn digwydd. Roedden nhw’n hoffi Elinor oherwydd doedd hi ddim yn gallu dweud y drefn wrthyn nhw. Caewyd y llenni, fel arfer. Cafodd tad y plant ei ladd dwy flynedd yn ôl. Roedden nhw ar ben ei hun ran fwyaf o'r amser oherwydd doedden nhw ddim yn gallu symud o ystafell i ystafell oherwydd doedd ganddyn nhw ddim allweddau. Doedden nhw ddim yn gallu ei rhedeg o gwmpas y tŷ fel plant arferol. Tro ar ôl tro anghofiai amdanyn nhw a byddant nhw yn yr un ystafell am oriau ond, gwell hwyr na hwyrach. Hanner o’r amser roedd ei fam yn ei fyd ei hun a fyddai’n dweud pethau bydd neb byth yn deall. Gorffennodd y plant ei frecwast hanner awr yn ôl ond roedd ei fam yn yr ystafell ar ei ben nhw, yn cerdded nôl a blaen, nol a blaen yn ddiddiwedd. Hyd yn oed pan roedd hi'n dewis dod i nôl nhw mae rhaid iddi hi gau'r llenni a chloi pob drws ar ôl fynd trwyddo. Ferch ifanc 11 oed oedd Lili gyda gwallt brown hir, doedd ei wallt dim yn gweld yr haul felly doedd e ddim yn oleuach yn yr haf fel plant eraill. Roedd ganddi hi lygaid mawr gwyrdd fel cath a thrwyn bach. Roedd Efan yn tua 6 mlwydd oed gyda gwallt brown oedd yn cyffwrdd ei glustiau a llygaid brown fel siocled. Doedd ganddyn nhw ddim ffrindiau. Dim ond ei gilydd. Ac roedden nhw'n dadlau hanner o'r amser.
“Bydd mam yn dod cyn bo hir” sibrydodd Lili.
"Mae'r hysbyseb am ddau was newydd yn mynd allan wythnos nesaf. Ond dyma chi. Pwy ydych chi? A pham rydych chi yma?" gwaeddodd Catrin, yn ofalus i beidio deffro'r plant.
"Roedden ni’n cerdded heibio. Doedden ni ddim wedi dod am waith, ond os mae gennych chi safle sydd ar gael …” eglurodd Ariana.
"Dyma'r allweddau. Cofiwch i gloi pob drws ar ôl mynd trwyddo e. Cofiwch gau'r llenni i gyd os mae'r plant yn mynd i mewn i ystafell. Mae ganddyn nhw alergedd i olau. Os maen nhw yn y golau byddan nhw yn cael brechau os maen nhw yn y golau am rhy hir byddan nhw yn marw." Dwedodd Catrin.
Roedd y ddau blentyn yn y tywyllwch yn ei wely yn cysgu’n dawel. Agorodd Efan un llygad a gwelodd fachgen bach yn y gornel. Cerddodd Efan yn araf lan i’r bachgen bach. Doedd y plentyn bach dim yn codi ofn arno e.
“Helo” sibrydodd e yn dawel. “Pwy ydych chi?”. Yn sydyn edrychodd y bachgen bach ar Efan a sgrechiodd y bachgen ar dop ei lais a rhedodd mas o’r ystafell a’i wynt yn ei ddwrn.
Y diwrnod nesaf pan aeth y plant lawr i fwyta brecwast dwedodd Efan beth ddigwyddodd.
“Dydy hwnna dim yn wir. Does neb arall yn y tŷ. A sut rhedodd e mas? Mae angen allwedd. Rydych chi’n dweud celwydd.” bloeddiodd Lili.
“Dwi yn dweud y gwir. Gwelais i e yng nghornel yr ystafell.” dadleuodd Efan. Ond doedd e ddim yn gallu profi e. Efallai fod ei chwaer yn gywir. Doedd neb arall yn y tŷ'r noson honno. Ond roedd e wedi gweld rhywbeth a doedd e ddim yn cysgu.
Digwyddodd yr un peth pob nos. Yn y diwedd daeth Efan yn ffrindiau gyda’r bachgen. Ond doedd neb yn credu e. Bod tro ceisiodd Efan dangos nhw’r bachgen roedd e wedi mynd.
Eisteddodd Lili yng nghanol yr ystafell wag yn darllen yn y tywyllwch gyda dim ond lamp fach i’w oleuo'r tudalennau. Teimlodd Lili fel ei bod hi yn mynd i farw yn yr ystafell hon. Ceisiodd hi gael ei meddyliau oddi ar y ffaith bod hi wedi eistedd yn yr ystafell am ddwy awr erbyn hyn ar ei phen ei hun. Meddyliodd hi fod rhaid iddi hi gael sylw ei fam rhywsut neu’n gilydd. Edrychodd hi ar y ffenestri. Roedd gap bach rhwng y llenni. Roedd gormod o olau yn yr ystafell. Ond, doedd y llenni ddim fel hynna pam gadawodd ei fam. Mae’n ddim ond y gwynt. Dim ond y gwynt. Bydd popeth yn iawn. Dwedodd Lili wrth ei hun. Caeodd hi ei lygaid am eiliad yn gobeithio bod popeth dim ond yn freuddwyd. Clywodd hi sŵn. Agorodd hi ei llygaid yn gyflym. Roedd y llenni ar gau. Roedd e dim ond yn hunllef dwedodd hi wrth ei hun. Ond beth os oedd ei frawd dim yn ddweud celwydd? Beth os oedd pobol yn y tŷ? Amhosibl. Doedd ysbrydion dim yn bodoli dwedodd hi wrth ei hun. Ond doedd hi ddim yn hoffi e, fod yn yr ystafell ar ei phen ei hun. Roedd rhaid iddi hi gael sylw ei fam.
Clywodd Catrin sgrech. Doedd hi ddim wedi clywed y sgrech hon o flaen, ond doedd hi ddim yn cofio clywed sgrech ei blant o flaen. Ceisiodd hi gofio pa ystafelloedd eistedda’i blant i mewn. Gadawodd hi Efan yn y bedwaredd ystafell gwely. Rhedodd yn gyflym yn banig.
“Efan! Efan! Ydy hwnna’n ti?” crynodd ei ddwylo wrth agor a chloi pob drws gyda’r allweddi. Cyrhaeddodd hi’r ystafell gywir a agorodd hi’r drws yn sydyn. Eisteddodd Efan yn dawel wrth y ddesg yn darllen.
“Oedd hwnna’n ti?” gofynnodd Catrin.
“Oedd beth yn i?” gofynnodd Efan yn ddryslyd.
“Y sgrech, clywodd i sgrech.” dwedodd Catrin yn gyflym, yn ceisio cofio ble roedd hi wedi gadael Lili.
“Fallai oedd e’n Finnian.” awgrymodd Efan.
“Pwy yw Finnian?” gofynnodd Catrin.
“Y bachgen sydd yn byw yn y tŷ. Mae’n dod o Iwerddon.”
“Dydw i ddim eisiau clywed y nonsens yma nawr. Eich ffrind dychmygol yw e. Mae Lili mewn trwbl. Mae rhaid i fi fynd. Nawr.” dwedodd Catrin, ac yna rhedodd hi mas o’r ystafell.
“Ond...” gwaeddodd Efan. Gwyliodd e’r drws yn cau a’r allwedd yn troi’r glo.
Rhedodd Catrin lawr y grisiau. Tarodd hi mewn i Elinor a ofynnodd hi ble oedd y plant. Pointio hi i un o’r ystafelloedd sbâr. Rhedodd Catrin lan i’r drws. Wnaeth hi gofio i gloi'r llenni i gyd. Cymerodd hi anadl dwfn. Rhaid iddo e fod yn Lili a oedd yn sgrechian. Trodd Catrin y glo a cherddodd hi i mewn. Rhedodd Lili lan iddi hi'r eiliad cerddodd hi i mewn.
“Mam. O’r diwedd. Rydw i wedi bod yn aros am oriau.”
“Clywais i ti’n sgrechian, beth oedd y mater?” gofynnodd Catrin.
“Beth? Wnaeth i ddim sgrechian. Bydd i byth yn sgrechian. Does neb yn gallu codi ofn arno i.” gwaeddodd Lili.
“Mae’n iawn i sgrechian... Does dim rhaid i chi wadu’r ffaith fod chi wedi sgrechian.”
“Doedd i ddim wedi sgrechian!” gwaeddodd Lili a cherddodd hi mas o’r ystafell. Anghofiodd ei fam clo’r drws.
Gorweddodd Lili a Efan yn wynebu oddi ar ei gilydd.
“Efan,” sibrydodd Lili “yn y sefyllfa annhebygol bod chi’n dweud y gwir ac mae pobol arall yn y tŷ, pam ydyn nhw yma? A sut ydyn nhw’n mynd o gwmpas?”
“Mae’r bachgen ddim yn fy nychymyg i! Mae ganddo e teulu hefyd. Mae ganddyn nhw fam o’r enw Sadhbh. Rydw i wedi cwrdd â hi dwywaith nawr. Wedyn mae yna Eimhear, mae hi’n hen iawn. Dydw i ddim ond wedi cwrdd hi un waith ond dydy hi ddim yn fy hoffi i. Dwi'n credu fod nhw'n ysbrydion. Does dim esboniad arall am sut rydyn nhw'n mynd o gwmpas y tŷ” erbyn roedden nhw’n wynebu ei gilydd.
“Rydw i’n credu chi ond rydw i ddal yn feddwl fod ysbrydion dim yn bodoli. Ond mae pendant pobol eraill yn y tŷ. Ond sut ydyn ni’n mynd i gael mam i gredu ni?” gofynnodd Lili.
“Dydw i ddim yn gwybod” sibrydodd Efan.
“Ariana, mae mam ddim yn ein credwn ni”
“Bydd mam yn sylweddoli rhywbryd na’i gilydd” dwedodd Ariana ac wedyn cerddodd hi i ffwrdd.
Eisteddodd Catrin yn un o’r ystafelloedd yn peintio gyda’r llenni ar agor.
“Mae’n anodd iawn, cael y llenni ar gau trwy’r amser. Mae’n anodd iawn gwneud unrhyw beth pan mae’n dywyll” eglurodd Catrin i Ariana.
“Fallai eich bod chi...” stopiodd Ariana. Dylai hi ddweud wrthi hi gofynnodd ei hun. Na, dim nawr. “does dim ots”.
“Beth?” gofynnodd Catrin ond cafodd ei sylw ei thynnu gan sŵn. Roedd e’n dod o lan star. Sŵn troed yn rhedeg o gwmpas.
“Ble yw’r plant? Dydyn nhw ddim yn gallu rhedeg o gwmpas. Byddant nhw’n gweld y golau!” gofynnodd Catrin.
“Mae’r plant yn y gegin gydag Elinor. Dydy e ddim yn bosibl iddyn nhw fod lan star.” atebodd Ariana.
“Rhowch i arf. Unrhyw beth. Nawr! Cyflym!” Gwaeddodd Catrin. Ar ôl i Catrin gadael yr ystafell gwenodd Ariana.
Rhedodd Catrin lan y grisiau. Gwelodd hi ddrws wedi ei agor. Ond sut? Maen nhw i gyd wedi cael ei chlo gan allweddi. Sut? Rhedodd Catrin i mewn i’r ystafell a gwelodd hi lawer a llawer o focsys. Doedd y rhain ddim y pethau hi. Agorodd hi un o’r bocsys a gwelodd doli gydag un llygad wedi ei rhwygo bant ei wyneb yn edrych arni hi. O dan y doli roedd clustog fawr wyn. Yn sydyn dechreuodd Catrin fwrw'r bocsys i gyd i lawr.
Safodd Ariana ac Elinor tu allan o'r tŷ.
"Ydych chi'n meddwl fod e'n amser?" gofynnodd Ariana a edrychodd hi arno Elinor yn aros am ei ateb. Nodiodd Elinor i dangos for ei hateb hi yn ie a diflannon nhw i ochor arall yr ardd.
"Mam, ble mae Ariana ac Elinor?" gofynnodd Efan
"Maen nhw wedi mynd. Fel y rhai arall." atebodd Catrin
"Pam?" gofynnodd Lili
"Dydw i ddim yn gwybod" oedd yr ateb cafodd hi.
Y noson honno agorodd Lili'r llenni. Dechreuodd hi gerdded mas o'r ffenest pan welodd Efan beth oedd hi yn wneud.
"Lili, pam ydych chi'n mynd tu fas?" gofynnodd Efan yn sibrwd.
"Dwi angen mynd allan. Mae'n tywyll bydden ni'n iawn."
"Ni? Dydw i ddim yn mynd tu fas!"
"Dewch, bydd e'n hwyl."
"Iawn. Ond dim am rhy hir. Fydd mam yn ein lladd ni." dringodd y ddau ohonyn nhw mas o'r ffenest a dringon nhw lawr y biben.
"Efan, dewch draw fan hyn!" edrychodd Efan i mewn i'r mwg a gwelodd Lili yn bell i ffwrdd yn rhedeg i ochor arall yr ardd. Wedyn aeth hi o’r golwg.
"Efan! Gyflym dwi wedi ffeindio rhywbeth!" gwaeddodd Lili. Doedd Efan dim yn gallu gweld Lili yn glir rhagor ond roedd e'n ceisio rhedeg gyda'i wynt yn ei ddwrn.
Tua 20 metr i ffwrdd safai Lili. Gwelodd hi graig yn dod mas o'r llawr. Roedd hyn fel antur hwyl. Gwelodd hi ysgrifen ar y creigiau. Tynnodd hi'r planhigion oedd wedi tyfu'n wyllt bant o'r graig a darllenodd hi. 'Elinor Smith 29 blwydd oed'. Tynnodd hi'r planhigion o'r cerrig arall. 'Ariana Smith 59 blwydd oed'. Doedd hi ddim yn gallu credu'r peth! Roedd Ariana ac Elinor yn ysbrydion! Edrychodd hi nôl i Efan. Cerddodd Ariana ac Elinor 10m tu ôl iddo e.
"Efan. Cadw i ffwrdd ohonyn nhw." gwaeddodd hi ar dop ei lais "rhedwch ato i. Nawr!"
"Pam?"
"Maen nhw yn ysbrydion!"
"Beth?" gwaeddodd Efan a dechreuodd e gerdded yn gyflymach. Ond aeth Ariana ac Elinor yn gyflymach hefyd.
"Rhedwch! Maen nhw'n ysbrydion!" gwaeddodd Lili. "Cyflym!" rhedodd Efan mor gyflym â phosib nes bod y ddwy nôl yn y tŷ.
Eisteddodd y tair ohonyn nhw yn ystafell gyda dim ond shelf llyfrau a bwrdd. Yn sydyn dechreuodd y llyfrau symud o'r shelf.
"Ydych chi'n gallu ein clywed ni? Pwy ydych chi? Sut wnaethoch chi farw?" gofynnodd llais dieithr. Edrychodd Catrin o gwmpas yr ystafell. Doedd neb yna ond hi a'u phlant.
"Dydyn ni ddim wedi marw. Rydyn ni dal i fyw!" gwaeddodd Catrin.
Safai hi yn ystafell wely'r plant. Clywodd hi sgrechian yn dod o dan y glustog. Gwthiodd hi'r glustog galetach a galetach. Roedd fwy o sgrechian. Roedd dicter yn mynd trwy ei gwaed. Gwthiodd hi'n galetach. Roedd fwy o sgrechian yn dod o dan y glustog. Gwthiodd hi nes bod y sgrechian wedi stopio. Wedyn sylweddolodd hi fod hi wedi lladd plant ei hun gyda dwylo ei hun. Pigodd hi'r cyllell lan o'r ddesg. Ebychodd hi arno’i freichiau. Wnaeth hi ladd ei phlant gyda’r breichiau hyn. Teimlodd hi’r cyllell yn mynd i mewn i’w fraich. Gwthiodd hi yn galetach i mewn i’w fraich. Gwyliodd hi’r gwaed yn dod mas o’u fraich. Teimlodd hi fel bod hi’n haeddu hyn. Doedd hi ddim yn gallu byw gyda’i hyn. Teimlodd hi ryddhad wrth wylio’r gwaed yn dod mas o’u fraich. Wedyn dim byd.
"Mam! Mam! Deffrwch!" gwaeddodd y plant.
"Rwy'n flin." ymddiheurodd Catrin.
"Rydyn ni'n gwybod beth wnaethost ti." dwedodd Efan "gadawodd y bobol ddoe". Edrychodd Efan yn drist. Wnaeth ei unig ffrind gadael e. Ond roedd rhaid iddo e rhoi ei sylw i hyn am nawr.
"Pa mor hir ydw i wedi bod yn cysgu?" gofynnodd Catrin
"Tua dau ddydd" atebodd Lili.
"Pam mae'r llenni ar agor?" gwaeddodd Catrin.
"Rydyn ni'n gallu gweld yr haul eto. Nawr rydyn ni'n ysbrydion does dim angen i ni gloi pob drws a chau'r llenni. Rydyn ni'n gallu bod yn blentyn cyffredin" dwedodd Lili a gwen o glust i glust.